Rydym yn bractis anifeiliaid bach ym Mrynhyfryd, a sefydlwyd yn y 1950au.
Mae ein practis yn hygyrch; rydym yn cynnig mynediad i’r anabl a pharcio ar y safle.
Mae ein tîm milfeddygol cyfeillgar a phrofiadol yn darparu gofal, llawdriniaethau a thriniaethau milfeddygol o’r safon uchaf – yn ogystal â gwiriadau iechyd rheolaidd a gweithdrefnau arferol.
Os byddwch yn ffonio yn ystod y nos neu ar y penwythnos pan fydd ein practis ar gau, cysylltwch â Vets Now Abertawe.
Vets Now yw ein gwasanaeth brys pwrpasol, gyda staff nos, llawn amser fydd yn sylwgar ac yn effeithiol, hyd yn oed yn ystod oriau anghymdeithasol. Mae gan ein milfeddygon a'n nyrsys cymwys ddiddordeb arbennig, profiad a hyfforddiant ym mhob agwedd ar ofal critigol brys.
Mae’r tîm MiNightVet ar gael i ddarparu cyngor yn rhad ac am ddim dros y ffôn os byddwch yn credu bod angen gofal brys ar eich anifail anwes, a byddant yn cynnig ymgynghoriad brys i chi yma yn y practis os bydd angen gweld eich anifail anwes y tu allan i oriau.