Rydym yn bractis anifeiliaid bach yng Ngaerwen, Ynys Môn, a sefydlwyd ar ddechrau 2009. Mae ein practis yn hygyrch iawn gyda pharcio ar y safle.
Ochr yn ochr â’n cyfleusterau a’n cyfarpar arbenigol, mae ein tîm milfeddygol cyfeillgar a phrofiadol yn darparu gofal, llawdriniaethau a thriniaethau milfeddygol o’r safon uchaf – yn ogystal â gwiriadau iechyd rheolaidd a gweithdrefnau arferol.
Bydd ein pwyslais bob amser ar ofal tosturiol, a byddwn yn ymdrechu’n deg i sicrhau bod ein cleifion yn teimlo’n gartrefol ac yn gyfforddus. Rydym hefyd yn annog ymweliadau cymdeithasol ar unrhyw adeg!
Os byddwch yn ffonio yn ystod y nos neu ar y penwythnos pan fydd ein practis ar gau, cysylltwch â Vets Now Bae Colwyn.
Vets Now yw ein gwasanaeth brys pwrpasol, gyda staff nos, llawn amser fydd yn sylwgar ac yn effeithiol, hyd yn oed yn ystod oriau anghymdeithasol. Mae gan ein milfeddygon a'n nyrsys cymwys ddiddordeb arbennig, profiad a hyfforddiant ym mhob agwedd ar ofal critigol brys.
Mae eu tîm gofalgar ar gael i ddarparu cyngor yn rhad ac am ddim dros y ffôn os byddwch yn credu fod angen gofal brys ar eich anifail anwes, a byddant yn cynnig ymgynghoriad brys i chi yn y clinig y Tu Allan i Oriau os oes angen gweld eich anifail anwes.